Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

HSC(4)-23-12 papur 6

Ymchwiliad i Ofal Preswyl i Bobl Hŷn – Nodyn o gyfarfod y Grŵp Cyfeirio ar 12 Mehefin 2012

 

Cefndir

 

1.   Sefydlodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol grŵp cyfeirio ar gyfer ei ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn yn ystod gwanwyn 2012. Mae'r grŵp yn cynnwys y rhai a fu'n cynorthwyo ffrindiau neu aelodau o'r teulu mewn lleoliadau gofal preswyl yn ddiweddar, sy'n gwneud hynny ar hyn o bryd, neu sy'n wynebu gwneud hynny yn y dyfodol. 

 

2.   Rôl y grŵp cyfeirio allanol yw rhoi barn i'r Pwyllgor ynghylch y prif faterion a fynegwyd yn ystod yr ymchwiliad. Mae hyn yn cynnwys eu barn ynghylch y graddau y mae'r wybodaeth a ddarperir yn y dystiolaeth yn adlewyrchu eu profiadau personol eu hunain, a'r graddau y maent yn cytuno â'r cyfeiriad polisi presennol ym maes gofal preswyl i bobl hŷn.

 

3.   Bydd y grŵp cyfeirio yn cyfarfod bob mis yn ystod y cyfnod o gasglu tystiolaeth lafar, gan ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd eisoes a chynnig mathau o gwestiynau y gellid eu gofyn mewn sesiynau tystiolaeth yn y dyfodol. Bydd y grŵp cyfeirio yn cytuno ar bob nodyn a lunnir o'i gyfarfodydd cyn eu cyhoeddi.

 

Crynodeb

 

4.   Cyfarfu'r grŵp ar 12 Mehefin 2012 i drafod y prif themâu a ddaeth i'r amlwg yn sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 16 Mai 2012 gyda gweithwyr proffesiynol a sefydliadau staff. 

 

5.   Bu'r grŵp hefyd yn ystyried materion yn ymwneud â chyllido gofal preswyl, proffil staff ar gyfer y rheini sy'n gweithio ym maes gofal, a chwestiynau y gellid eu gofyn yn y sesiynau tystiolaeth gyda darparwyr annibynnol ar 14 Mehefin, a chyda'r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 20 Mehefin.

 

Y prif themâu

 

6.   Cytunodd y grŵp cyfeirio mai dyma'r prif themâu a ddaeth i'r amlwg yn y sesiwn dystiolaeth ffurfiol a gaiff ei chrybwyll ym mharagraff 4:

 

-        Mae terminoleg fel 'digonol' neu 'waith ychwanegol', a gaiff ei defnyddio gan y staff a chyrff proffesiynol, yn rhy amwys.

 

-        Rhaid gwneud mwy i fynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â recriwtio a chadw staff ar bob lefel ym maes gofal. Dylid ystyried gweithio ym maes gofal yn broffesiwn, sydd â llwybr gyrfa clir a graddfeydd cyflog sy'n adewyrchu profiad.

 

-        Yr angen am hyfforddiant addas ac ymarferol ar gyfer staff sy'n gweithio ym maes gofal.  Rhaid i hyn fod yn fwy nag ymarfer ticio blychau, a rhaid i'r hyfforddiant fod yn ystyrlon ac yn berthnasol i'r rheini sy'n darparu gofal.

 

-        Rhaid cynllunio'n ehangach ar gyfer y dyfodol, gan ystyried newidiadau yn nemograffeg Cymru.

 

-        Yr angen am isafswm o ran lefelau staffio mewn cartrefi gofal, er mwyn sicrhau bod bob amser nifer briodol o aelodau staff yn gweithio, yn enwedig dros nos.

 

7.   Wrth drafod y prif themâu a'r dystiolaeth a glywyd, mynegodd y grŵp y pwyntiau a ganlyn:

 

-        Ymddengys fod nifer o fwriadau da, a rhethreg am wahanol sefydliadau yn cydweithio; fodd bynnag, ymddengys na chefnogwyd hyn gan weithredu cadarnhaol a gwaith i symud ymlaen.

 

-        Ymddengys fod y sefydliadau proffesiynol yn diystyru gwaith a chyfraniad posibl y trydydd sector.  Er eu bod yn cydnabod pwysigrwydd gwirfoddolwyr, mae gwaith y trydydd sector yn cael effaith a dylanwad llawer mwy eang na hyn.

 

-        Drwy gydol yr holl sesiynau tystiolaeth, ymddengys na chyfeiriwyd fawr at y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a'r effaith y gallai ei chael ar nodweddion gofal preswyl.

 

-        Mae tuedd mewn ysbytai, wrth ofalu am yr henoed, i ganolbwyntio ar y diffygion a'r hyn na all pobl ei wneud, yn hytrach na'r galluoedd sydd ganddynt o hyd.  Gall hyn beri i gleifion ddirywio.

 

-        Drwy gydol y sesiynau tystiolaeth, nid oes yr un tyst wedi cyfeirio at y mater pwysig o brofedigaeth. Yn aml, mae ar bobl angen galaru am y perthnasau hynny nad ydynt wedi marw ond y cafwyd bod ganddynt ddementia, clefyd Parkinson, neu gyflyrau tebyg, yn enwedig pan fyddant yn mynd i ofal preswyl. Mae datblygu a rhannu cynlluniau diwedd bywyd â theuluoedd yn gysylltiedig â hyn.

 

-        Dylai fod ffyrdd gwell o sicrhau bod cartrefi'n rhannu arferion da.  Gellid gwneud hyn drwy'r gyfundrefn arolygu, o bosibl, a gallai arolygwyr geisio annog y cartrefi hynny na fu'n perfformio cystal i gymryd rhan, drwy awgrymu enghreifftiau o arfer da.

 

-        Os yw'r tâl a gewch mewn cartref gofal yn llai na'r hyn y byddwch yn ei gael am weithio mewn archfarchnad, bydd y swydd yn parhau'n anatyniadol.  Mae hyn yn broblem arbennig o gofio nad oes llwybr gyrfa clir yn y sector.

 

-        Mynegodd y grŵp bryder, os nad oedd gweithio mewn gofal yn atyniadol i'r bobl hynny mewn swyddi proffesiynol â chyflog uwch, fel seiciatryddion, y byddai hyd yn oed yn llai tebygol o ddenu'r rheini sy'n mynd i swyddi â chyflog is, fel gweithwyr gofal.

 

-        Ni all e-ddysgu gymryd lle dysgu ymarferol.  Wrth drafod y ddarpariaeth gofal, gofynnodd y grŵp a ystyriwyd cynnwys trosglwyddo gwybodaeth ac ymweld â chartrefi gofal eraill, o bosibl, mewn rhaglenni hyfforddiant.

 

-        Dylai bywydau pobl fod yn werth y gost o reoleiddio a chofrestru staff ar bob lefel ym maes gofal.

 

-        Arweinyddiaeth dda yw'r sail i reoleiddio da.

 

-        Mae Cyngor Gofal Cymru wedi gwneud llawer o waith da ynghylch camau cychwynnol cofrestru staff. Dylid datblygu hyn yn awr, ac ni ddylai Cymru fod ar ei hôl hi.

 

-        Rhaid i weithwyr proffesiynol, gan gynnwys nyrsys a therapyddion galwedigaethol, sy'n gofalu am bobl hŷn wybod mwy am ba wasanaethau a chymorth sydd ar gael yn y gymuned.

 

-        Roedd y grŵp o'r farn ei bod yn bwysig ystyried dewisiadau unigol o ran ble y mae pobl yn dymuno byw.  Yn enwedig, teimlent ei bod yn bwysig cydnabod pam mae pobl yn dymuno aros gartref a bod yn annibynnol, ac y gellid defnyddio hyn i ddatblygu'r sector gofal.

 

-        Roedd y grŵp yn pryderu bod sefydliadau proffesiynol yn tueddu i wneud penderfyniadau sy'n osgoi risg yng nghyswllt pobl hŷn. Hoffai'r grŵp weld y grwpiau hyn yn cael mwy o rym ac arweinyddiaeth, er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud y penderfyniad gorau ar gyfer y claf ac nid y penderfyniad sydd â'r risg leiaf o'u safbwynt hwy.

 

-        Dylid cynnal arolwg hydredol ymysg pobl sy'n 60 oed er mwyn cynllunio ar gyfer y dyfodol.  Mae'n bwysig bod y Llywodraeth yn cyfathrebu â'r rheini a fydd yn defnyddio ac yn cyllido'r system gofal preswyl yn y dyfodol wrth ddatblygu modelau gofal newydd.

 

-        Roedd y grŵp o'r farn bod hyfforddiant yn elfen allweddol o ddarparu gwasanaeth gwell ym maes gofal preswyl, yn enwedig mewn meysydd fel dementia, lle y gall hyd yn oed ychydig bach o hyfforddiant drawsnewid y gofal a ddarperir mewn cartref. Fodd bynnag, teimlai'r grŵp fod materion yn ymwneud ag ansawdd yn codi'n aml pan fo hyfforddiant yn cael ei ddarparu'n fewnol gan gartrefi, ac yn electronig. 

 

-        Yn aml, gall hyfforddiant mewn lleoliadau gofal fod yn ymarfer ticio blychau, yn enwedig yng nghyswllt iechyd a diogelwch a chodi a chario, er enghraifft, nad oes ganddo fawr o gyswllt â'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd.  Pan ofynnir i'r staff am hyfforddiant, ni allant weld cyswllt rhwng yr hyn a ddysgwyd a'u profiadau yn y swydd.

 

-        Mynegodd y grŵp bryder y gallai preswylwyr ddioddef os aethpwyd â'r staff oddi ar y safle i'w hyfforddi a chyflogwyd staff asiantaeth yn eu lle nad oeddent yn gwybod am anghenion preswylwyr.

 

-        Credai'r grŵp fod y cysyniad o gael pwynt canolog ar gyfer gwybodaeth yn un da, ac y byddai'n ddefnyddiol cael ffordd o arwain pobl drwy'r broses o ddewis gofal preswyl a mynd i ble y caiff ei ddarparu.  Fodd bynnag, teimlwyd y byddai angen cefnogaeth pawb sy'n ymwneud â darparu gofal preswyl ac y byddai angen i'r adnoddau priodol fod ar gael er mwyn sicrhau y gallai pobl gael gafael ar y wybodaeth mewn pryd. Awgrymodd y grŵp y dylid ystyried modelau sy'n bodoli eisoes wrth ddatblygu unrhyw adnodd o'r fath, er mwyn dysgu o arferion gorau. 

-        Mae llawer o'r dystiolaeth a gafwyd wedi awgrymu bod preswylwyr yn cael profiad negyddol mewn cartrefi mwy, o'u cymharu â chartrefi llai. Fodd bynnag, pwysleisiodd y grŵp fod rhai manteision yn gysylltiedig â chartrefi gofal mwy, gan y gallant ddarparu dewis ehangach o weithgareddau, ynghyd â mwy o gyfle i gymdeithasu ac i barhau'n fwy gweithgar yn gyffredinol.

 

-        Ym marn y grŵp, roedd honiad yr undebau llafur bod diffyg hyfforddiant a datblygiad ar gyfer staff, cyflogau isel, a diffyg proffesiynoli yn y sector gofal yn adlewyrchu sut y caiff staff eu gweld, ac yn pwysleisio bod angen dyrchafu'r alwedigaeth.

 

8.   Yn ychwanegol at ystyried y materion a ddaeth i'r amlwg yn y sesiynau tystiolaeth, bu'r grŵp hefyd yn ystyried nifer o bwyntiau yn ymwneud â themâu sy'n codi'n aml, sef cyllid a phroffil y staff:

 

Cyllid

-        Nid yw cael lleiafswm o gyllid yn ddigon; bydd yn arwain at lai a llai o arian. Ni ddylai'r ffaith bod rhywun yn cael ei gyllido drwy'r awdurdod lleol olygu o reidrwydd na all ond fynd i gartref o ansawdd is.

 

-        Rhaid ystyried y system ar gyfer taliadau ychwanegol.

 

-        Rhaid gwneud mwy o waith ynghylch taliadau gofal parhaus, gan eu bod yn cael eu dyfarnu mewn modd anghyson ar hyn o bryd. Teimlai'r grŵp fod loteri o ran cael y taliadau hyn, ac mai'r ffordd yr ydych yn ateb cwestiynau'r asesiad sy'n bwysig, yn hytrach na bod gwerthusiad gwirioneddol o angen. Ymddengys fod cleifion yng Nghymru (yn enwedig y rheini sydd â dementia neu gyflyrau gwybyddol) o dan anfantais o'u cymharu â chleifion yn Lloegr, a hynny o ganlyniad i'r dull a ddefnyddir i asesu. 

 

Proffil y Staff

-        Mae'r sgiliau a'r gofynion y mae eu hangen ar staff sy'n gweithio ym maes gofal preswyl yn llawer uwch nag sy'n cael ei gydnabod.  Er enghraifft, mae angen i staff wybod am nifer o gyflyrau, gan gynnwys clefyd Alzheimer, clefyd Parkinson, a nam ar y synhwyrau, a rhaid iddynt allu gweithredu o ganlyniad i arwyddion y cyflyrau hyn.

 

-        Mae angen gwneud mwy o waith i godi proffil gweithwyr gofal, ac i wella agweddau tuag at staff.

 

-        Roedd y grŵp o'r farn y gellid crynhoi'r nodweddion y mae eu hangen ar y rheini sy'n gweithio ym maes gofal preswyl drwy ddefnyddio'r pedwar 'S': Sicr (i allu ymdrin ag unrhyw heriau); Sensitif (o ran urddas);  Synnwyr digrifwch; a Stumog gref.

 

-        Dylid ystyried gweithio ym maes gofal yn alwedigaeth, a dylid gweithio i sicrhau bod strwythur gyrfa clir ynddi.

 

-        Dylid hyrwyddo gweithio yn y sector gofal a'r manteision a'r gwobrwyon sy'n gysylltiedig ag ef. Eto i gyd, byddai angen i hyn gynnwys pob agwedd ar yr hyn y mae'n rhaid ei wneud yn y swydd, er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r gyfradd cadw staff.

 

-        Awgrymodd y grŵp y byddai'n ddefnyddiol pe bai manyleb safonol y person i weithwyr gofal ar gael, y gallai'r arolygiaeth ei defnyddio i sicrhau bod y sgiliau priodol mewn cartref, a bod gan staff asiantaethau gymwysterau priodol. 

 

 

Cwestiynau ar gyfer sesiynau'r dyfodol

 

9.   Awgrymodd y grŵp y meysydd a ganlyn y byddai'r Pwyllgor efallai am eu trafod â'r Dirprwy Weinidog Plant a Gofal Cymdeithasol yn y cyfarfod ar 20 Mehefin 2012:

 

-        Yr angen am fodelau ariannol gwahanol wrth ddarparu gofal preswyl, er mwyn sicrhau hyfywedd gwasanaethau gofal yn y dyfodol ac i sicrhau y gall unigolion ddewis i ble y maent yn mynd. Dylai hyn gynnwys dewisiadau a fyddai'n galluogi unigolion i fuddsoddi yn eu gofal fel rhanddeiliad.  

 

-        Talu am ofal a chanfod beth yw safbwynt Cymru ynghylch Comisiwn Dilnot.

 

-        Sicrhau bod tryloywder yng nghyswllt gwybodaeth am gartrefi preswyl preifat, mewn meysydd fel hyfywedd ariannol, nifer y staff, a hyfforddiant/cymwysterau, a fydd yn galluogi pobl i wneud dewisiadau gwybodus.

 

-        Gwaith cynllunio'r Llywodraeth ar gyfer anghenion gofal yn y dyfodol–teimlai'r grŵp fod angen cynnal arolwg o bobl yn eu 50au/60au i weld sut y gallai'r proffil anghenion iechyd/gofal fod yn y dyfodol.

 

-        Ffyrdd i fynd i'r afael â chanfyddiad gwael y cyhoedd o gartrefi gofal a gwaith gofal.

 

-        Yr angen i symud i ffwrdd o 'gartrefi' preswyl/ymddeol ac ehangu'r gorwel i gwmpasu pentrefi ymddeol, lle y gellid ymdrin ag anghenion gwahanol.

 

Unrhyw fater arall

 

10.         Cytunodd y grŵp i gynnal cyfarfod arall tua diwedd mis Gorffennaf neu ar ddechrau mis Awst er mwyn trafod y prif themâu ac argymhellion a ddaeth i'r amlwg o'r ymchwiliad; bydd hynny'n cyfrannu at yr adroddiad drafft.